Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Drysau Agored - tu ôl ir llenni yn yr Hen Reithordy a llwybr Pentref Penarlâg
Published: 30/08/2017
Dydd Sadwrn 23 Medi 2017, 10am - 4pm
Ddydd Sadwrn 23 Medi 2017, bydd Archifdy Sir y Fflint, sydd wedi鈥檌 leoli yn yr
Hen Reithordy, Penarl芒g, yn cymryd rhan yn y digwyddiad 鈥楧rysau Agored鈥�, sef
digwyddiad Cymru gyfan sy鈥檔 cael ei drefnu gan Cadw.
Mae Drysau Agored yn cynnig y cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd
archwilio trysorau cudd diwylliant a hanes Cymru.
Adeilad or 18G ywr Hen Reithordy syn sefyll o fewn ei diroedd ei hun ac a
oedd am ganrifoedd yn gartref i Reithoriaid Penarl芒g. Ers 60 mlynedd bellach
mae鈥檙 Rheithordy wedi bod yn gartref i Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint lle
diogelir treftadaeth archifol unigrywr Sir gan sicrhau ei fod ar gael ir
cyhoedd.
Bydd y digwyddiad Drysau Agored yn cynnwys arddangosfa o adeiladau hanesyddol
Penarl芒g (gan gynnwys yr Hen Reithordy) ddoe a heddiw. Bydd teithiau y tu 么l
ir llenni o amgylch yr Hen Reithordy i weld yr ystafelloedd diogel ble
cedwir archifau hanesyddol y Sir a bydd cyfle hefyd i weld rhai o鈥檙 eitemau
hynaf a phrinnaf yn ein casgliadau.
Gallwch fynd i weld y stiwdio gadwraeth i weld sut y caiff archifau gwerthfawr
a bregus eu diogelu ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol. Bydd yna hefyd daith
gerdded ddiddorol o amgylch Penarl芒g heibio adeiladau hanesyddol y pentref o
dan arweiniad aelod gwybodus o staff.
Dewch draw i Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint i weld pa ffeithiau anhygoel y
gallwch chi eu darganfod am eich teulu, eich cartref neu eich ardal leol!
Taith o amgylch y pentref - 11.00am - rhaid archebu lle
Y tu 么l ir llenni a theithiau cadwraeth - 10.30am, 11.30am ac 12.30pm 鈥� rhaid
archebu lle
Rhif ff么n ar gyfer trefnu lle: 01244 532364, e-bost:
archives@flintshire.gov.uk
Cyfeiriad 鈥� Yr Hen Reithordy, Rectory Lane, Penarl芒g, Sir y Fflint, CH5 3NR