Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint yn Croesawu Taith Baton Gemaur Gymanwlad 
  		Published: 30/08/2017
Bydd Baton Gemaur Gymanwlad, sy鈥檔 cynnwys neges i鈥檙 athletwyr gan y Frenhines, 
yn ymweld 芒 Sir y Fflint fel rhan o鈥檙 daith i Gemau鈥檙 Arfordir Aur yn 
Queensland, Awstralia. 
Yn ystod y daith 388 diwrnod bydd y baton yn cael ei gludo gan redwyr amrywiol 
ac yn ymweld 芒 phob cornel o鈥檙 Gymanwlad cyn cyrraedd y Gold Coast City yn 
barod ar gyfer y seremoni agoriadol ar 4 Ebrill 2018.
Fel rhan o鈥檙 daith bydd y Baton yn treulio pedwar diwrnod yng Nghymru, gan 
deithio o Abertawe ar 5 Medi a chyrraedd Theatr Clwyd yr Wyddgrug ar 7 Medi.   
Mae cludwyr lleol y baton yn cynnwys Jade Jones, pencampwraig Taekwondo Gemau 
Olympaidd 2012 a 2016; Beverley Jones, y paralympwraig; Caroline Harvey a 
Daniel Font, s锚r badminton Gemau鈥檙 Gymanwlad; ac Elena Morgan, sy鈥檔 rhan o d卯m 
nofio Gemau Ieuenctid y Gymanwlad. 
Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y 
Fflint: 
Mae croesawu鈥檙 Baton i Sir y Fflint yn gyfle gwych i ni hyrwyddo ein 
cyfleusterau chwaraeon ar cyfleoedd a ddarperir ynddynt i drigolion o bob oed 
a gallu.
鈥淢ae gan Sir y Fflint enw da am feithrin athletwyr talentog sy鈥檔 ysbrydoli 
eraill iw canlyn. 
鈥淩ydym ni鈥檔 falch iawn o gefnogi neges y Baton a dymuno pob hwyl i bawb sy鈥檔 
cystadlu yng ngemau 2018.鈥
Bydd y dathliadau yn dechrau am 3pm ar y cae wrth ymyl y theatr a bydd y t卯m 
datblygu chwaraeon wrth law i helpu pobl gymryd rhan a rhoi cynnig ar 
amrywiaeth o gampau.
Meddai鈥檙 Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:
鈥淢ae gan Gymru gysylltiadau cryf 芒 Thaith Baton y Frenhines. Cychwynnodd taith 
gyntaf erioed y Baton yng Nghaerdydd cyn Gemau鈥檙 Ymerodraeth Brydeinig a鈥檙 
Gymanwlad yn 1958 a bu ir rhedwr a鈥檙 seren rygbi o fri Ken Jones gychwyn y 
daith. 
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd ac yn bleser gennyf fod Sir y Fflint yn cadw at y traddodiad 
hwn ac wedi ei dewis i gloi trydydd diwrnod y daith yng Nghymru. Hoffaf wahodd 
pawb i alw heibio i Theatr Clwyd ac ymuno 芒鈥檙 dathliadau, gan groesawu鈥檙 Baton 
i鈥檔 sir.鈥
Bydd y Baton yn cyrraedd am 5.30 a bydd gorymdaith arbennig, wedi ei chydlynu 
gan New Dance (sefydliad datblygu dawns lleol) ac yn cynnwys disgyblion o ddeg 
o ysgolion cynradd Sir y Fflint, yn tywys y rhedwyr at flaen y theatr. Bydd y 
Baton wedyn yn cael ei gludo i mewn i鈥檙 adeilad ac ar lwyfan Theatr Anthony 
Hopkins.
Gall unrhyw un sy鈥檔 dymuno cael tynnu ei lun gyda鈥檙 Baton fynd ar lwyfan Theatr 
Anthony Hopkins rhwng 6.15 a 7pm.
Bydd y ffordd o flaen y theatr ar gau ar gyfer y dathliadau o 3pm, ond bydd y 
maes parcio aml lawr ar agor i鈥檙 cyhoedd.
Gallwch ddilyn taith y Baton yn www.gc2018.com/qbr.