Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Canlyniadau TGAU 2017 
  		Published: 24/08/2017
Cydnabuwyd gan Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru bod newidiadau o ran 
cynnwys, strwythur a methodoleg asesu rhai arholiadau TGAU, gan gynnwys 
Saesneg, Cymraeg a Mathemateg, sy鈥檔 cael eu hadrodd am y tro cyntaf eleni, wedi 
effeithio ar y canlyniadau yn gyffredinol ar draws Gymru yn 2017. Mae鈥檙 
newidiadau hyn yn ei gwneud hin anodd cymharur canlyniadau eleni 芒 
chanlyniadau 2016. 
Cyfran y graddau A* i C  yn 2017 yw 62.8% ar draws Cymru. Yn Sir y Fflint, y 
gyfradd a lwyddodd i ennill y graddau uwch (A* - C) yw 63.5% o holl 
arholiadau鈥檙 haf, gan gynnwys ceisiadau cynnar ac arholiadau drwy鈥檙 Bwrdd 
Cymreig.  Mae cyfran y graddau A* ac A a gyflawnwyd gan fyfyrwyr Sir y Fflint 
gyda鈥檙 Bwrdd Cymreig yn 2017 yn 17%, o鈥檌 gymharu 芒 17.9% ar draws Gymru. 
Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg,  y Cynghorydd Ian Roberts: 
 鈥淎r ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn longyfarch ein disgyblion sydd wedi 
gweithio鈥檔 galed iawn i gyflawnir canlyniadau hyn er gwaethaf y newidiadau i鈥檙 
arholiadau.  Hoffwn hefyd ddiolch i鈥檙 rhieni a鈥檙 gofalwyr sydd wedi cefnogi ac 
annog eu plant ar aelodau staff sydd wedi gweithion galed iawn i gefnogi eu 
disgyblion. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn galluogi鈥檙 myfyrwyr i 
symud ymlaen i gyrsiau addysg 么l-16 neu ddod o hyd i waith addas.  Beth bynnag 
yw鈥檙 camau nesaf ar eu cyfer, dymunwn bob llwyddiant iddynt.鈥 
Ychwanegodd Claire Homard, Prif Swyddog Dros Dro Addysg ac Ieuenctid:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn falch iawn o allu llongyfarch ei fyfyrwyr, athrawon, rhieni a 
gofalwyr o fewn Sir y Fflint ar y canlyniadau TGAU a gyflawnwyd eleni ac mae鈥檙 
Cyngor yn edrych ymlaen at weld ei bobl ifanc yn symud ymlaen i gam nesaf eu 
taith ddysgu, boed hynny鈥檔 golygu addysg bellach, prentisiaethau neu鈥檙 byd 
gwaith. 
Yn ystod y cyfnod hwn o newid i strwythur y cwricwlwm ac arholiadau yng 
Nghymru, mae swyddogion addysg y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth 
芒鈥檙 Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion Gogledd Cymru, GwE, er mwyn gwella 
ansawdd addysg ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint a sicrhau bod dysgwyr yn 
cyflawni eu potensial.鈥 
DIWEDD