Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Erlyniad llwyddiannus
Published: 23/08/2017
Mae T卯m Safonau Tai a Gorfodaeth Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo mewn erlyniad
arall am drosedd dan Ddeddf Tai 2004.
Plediodd Filip Barbacaru, Cyfarwyddwr Easy Residence Ltd, yn euog i beidio 芒
bod 芒 thrwydded orfodol ar 22 Awst yn Llys Ynadon Wrecsam.
Cafodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o Gyngor Sir y Fflint wybod nad oedd
cyflwr 19 Ash Grove, Shotton, yn addas a bod yr eiddon rhy lawn.
Cafwyd bod y ty amlfeddiannaeth yn cynnwys tri llawr, gydag atig wedii
haddasu, ac roedd 22 o denantiaid yn byw yno.
Gan fod yr eiddo dros dri llawr a bod mwy na phump yn byw yno, a oedd yn
ffurfio dau deulu neu fwy, roedd angen cael trwydded orfodol ar ei gyfer, fel
mae Deddf Tai 2004 yn nodi.
Cyflwynwyd trwyddedau gorfodol er mwyn amddiffyn iechyd, diogelwch a lles rhai
sy鈥檔 byw mewn tai amlfeddiannaeth yn well.
Mae trwyddedau鈥檔 canolbwyntio ar yr elfennau ffisegol yn ogystal 芒 gallu ac
addasrwydd y sawl syn rheoli neun darparur llety amlfeddiannaeth i wneud
hynny.
Nod trwyddedu gorfodol yw sicrhau bod y tai amlfeddiannaeth hynny syn perir
risgiau mwyaf i iechyd a diogelwch yn dod at sylwr awdurdod lleol, syn rhoi
rhwymedigaeth mwy uniongyrchol ar landlordiaid i ddarparu safonau derbyniol.
Wrth ddedfrydu, dywedodd yr ynadon bod Mr Barbacaru wedi methu ag amddiffyn
iechyd a diogelwch y meddianwyr ac na fyddai peidio 芒 chydymffurfio 芒
rhwymedigaethau rheoleiddiol landlordiaid yn cael ei ganiat谩u.
Gosodwyd dirwy o 拢8,165 ar Filip Barbacaru, yn cynnwys costau.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelur Cyhoedd y Cynghorydd Chris
Bithell:
鈥淢ae T卯m Safonau Tai a Gorfodaeth Sir y Fflint o鈥檙 Adran Fusnes a Gwarchod
Cymunedau o ddifrif ynglyn 芒 gwella safonau eiddo rhent preifat yn Sir y Fflint
ac yn awyddus i weithio gyda landlordiaid ac asiantau sydd ag eiddo rhent yn y
sir er mwyn sicrhau bod y safonau gofynnol yn cael eu bodloni.
Fodd bynnag, yn yr achosion hynny lle nad yw pobl yn cydymffurfio, bydd camau
priodol yn cael eu cymryd, gan gynnwys camau gorfodi pan fo angen.鈥
Mae angen ir holl eiddo rhent preifat yng Nghymru gael ei gofrestru 芒 Rhentu
Doeth Cymru ac mae鈥檔 rhaid i unrhyw un sydd ynghlwm 芒 rheoli a gosod eiddo
rhent fod 芒 thrwydded. I gael gwybod mwy, cysylltwch 芒 Rhentu Doeth Cymru ar
03000 133344 neu ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru.