Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cartref chwedlau
  		Published: 15/08/2017
Mae Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn paratoi ar gyfer Sioe Amaethyddol 
flynyddol Sir Ddinbych a Fflint a gynhelir ddydd Iau, 17 Awst, pan fyddant yn 
uno mewn pabell i gynnal arddangosfa ac eleni maent yn dathlu 鈥楤lwyddyn y 
Chwedlau鈥.
Dewch i ganfod mwy am sut i fod yn 鈥榗hwedl gwirfoddoli鈥 a helpu Gwasanaethau 
Cefn Gwlad Sir y Fflint a Sir Ddinbych ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol 
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i wneud gwaith ardderchog yng nghefn gwlad ac 
ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru.  
Gallwch hefyd ddysgu am gymeriadau chwedlonol Cymreig, adrodd chwedlau a chreu 
celf a chrefft chwedlonol. 
Bydd digonedd o weithgareddau ar gael i鈥檙 teulu cyfan, gan gynnwys Hemlock y 
ddraig a fydd gyda ni ar y diwrnod ac ar gael i dynnu hunluniau hefyd. 
Felly dewch draw i weld yr holl anturiaethau chwedlonol sydd ar gael yn Sir 
Ddinbych, Sir y Fflint a gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd ein pabell ger y prif 
gylch a byddwn yn edrych ymlaen at eich gweld yno.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: 
鈥淩ydym yn falch iawn o allu arddangos ein gwaith i ymwelwyr unwaith eto eleni. 
鈥淏ydd y ddau gyngor yn tynnu sylw at yr hanes gwych, y profiadau ar 
cyrchfannau sydd ar gael yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint ac yn annog pobl i 
archwilior gornel ryfeddol hon o Gymru a mynd ar anturiaethau yno. 
鈥淩ydym yn annog pobl i alw heibio a gweld beth sydd gennym i鈥檞 gynnig.鈥
Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 
鈥淩wy鈥檔 hynod falch ein bod wedi ymuno 芒 Chyngor Sir Ddinbych am wyth mlynedd i 
ddangos cyrchfannau mor wych sydd gan y ddwy sir iw cynnig.
鈥淢ae Sioe Sir Ddinbych a Fflint yn un hanesyddol ac yn un o鈥檙 digwyddiadau 
pwysicaf a mwyaf poblogaidd yn y calendr amaethyddol ac mae pobl yn heidio iddi 
o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt. Mae鈥檔 llwyfan gwych i ni hyrwyddo ein 
cynghorau ac rydym yn hynod falch o gefnogi trefnwyr y sioe unwaith eto eleni.  
Am fanylion pellach am Sioe Sir Ddinbych a Fflint, edrychwch ar eu gwefan: 
http://www.denbighandflintshow.com