Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adolygu Gostyngiad Person Sengl
  		Published: 17/08/2017
Bydd y rheiny syn talu Treth y Cyngor yn Sir y Fflint ac yn derbyn gostyngiad 
o 25 y cant oddi ar eu bil oherwydd eu bod yn byw ar eu pen eu hunain yn cael 
eu gwirio cyn bo hir i wneud yn siwr bod y gostyngiadau yn gywir. Mae hwn yn 
ymarfer rheolaidd a chynhaliwyd adolygiad tebyg yn 2014.
Bydd Datatank Ltd, darparwr gwasanaeth blaenllaw sy鈥檔 arbenigo yn yr 
adolygiadau hyn, yn gweithio gyda鈥檙 Cyngor i gadarnhau鈥檙 gostyngiad i hawlwyr 
didwyll ac yn nodi鈥檙 rheiny syn hawlio gostyngiad Treth y Cyngor ond heb hawl 
i wneud hynny. 
Os bydd hawliadau anghywir yn cael eu canfod, bydd y Cyngor yn dod 芒鈥檙 
gostyngiad i ben ac yn ceisio adennill yr arian o鈥檙 dyddiad priodol.
Ar hyn o bryd mae dros 21,600 o drigolion (bron i un o bob tri chartref) yn 
hawlio gostyngiad person sengl. Er bod mwyafrif helaeth y trigolion hyn yn 
hawlior gostyngiad yn gywir, mae鈥檔 bosibl y bydd achosion lle nad ywr Cyngor 
wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth cartref a all effeithio ar y 
gostyngiad neu lle hawlir y gostyngiad trwy dwyll yn fwriadol.  
Anogir unrhyw drethdalwyr sy鈥檔 derbyn gostyngiad ac syn teimlo nad yw鈥檔 gywir 
i gysylltu 芒 gwasanaeth Treth y Cyngor ar unwaith ar (01352) 704848 cyn i鈥檙 
adolygiad llawn ddechrau ddiwedd mis Awst.