Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Chwilio am fusnesau llwyddiannus Sir y Fflint 2017 
  		Published: 18/08/2017
Rydym yn dechrau chwilio am fusnesau llwyddiannus Sir y Fflint yn dilyn lansiad 
Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2017 yn Soughton Hall yn ddiweddar. 
Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden:
Rydym yn falch iawn bod AGS Security Systems yn dychwelyd fel ein prif noddwyr 
ac rydym yn falch o groesawu noddwyr newydd ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn – 
gan gynnwys K K Fine Foods, Kingspan Insulated Panels, P & A Group of Companies 
and Westbridge Furniture Designs. 
 
Gall pob sefydliad sydd wediu lleoli yn Sir y Fflint - gan gynnwys eich 
sefydliad chi! - gofrestru, felly be am gyflwyno eich cais a dod i fwynhau 
noson hyfryd gyda phobl busnes eraill ar 20 Hydref.  
 
Mae gan fusnesau ar draws Sir y Fflint y cyfle i ddisgleirio yng Ngwobrau 
Busnes Sir y Fflint eleni. O lwyddiant ariannol i ymrwymiad cwmni iw tîm, mae 
Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn gwobrwyo a chydnabod rhagoriaeth mewn busnes ar 
draws y Sir.
 
Dywedodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr, AGS Security Systems:
 
Rydym wedi bod yn gysylltiedig âr digwyddiad ers wyth mlynedd, ac yn brif 
noddwr ers chwe blynedd. Rwyf wrth fy modd yn ymgysylltu, ac yn mwynhaur 
ysbryd cymunedol sydd gan fusnesau Sir y Fflint.  Boed i Sir y Fflint mewn 
Busnes, Gwobrau Busnes Sir y Fflint, an cysylltiad â nhw, barhau. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:
 
Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn wobrau ar gyfer busnesau yn Sir y Fflint yn 
unig, boed y busnesau yn fach neun fawr, ac maent yn darparu cyfle i ddathlu 
llwyddiannau cymuned fusnes y Sir.  
 
Cynhelir y seremoni wobrwyo fawreddog eleni ddydd Gwener 20 Hydref yn Soughton 
Hall, Llaneurgain, a bydd yn darparu cyfle i fusnesau llwyddiannus Sir y Fflint 
ddisgleirio.  Gall ennill Gwobr Busnes Sir y Fflint hybu proffil cwmni, sefydlu 
enw da, ac maen wych ar gyfer morâl y staff.  Byddwn yn annog busnesau i 
gyflwyno eu henwebiadau. 
 
 Rydym yn falch o gyhoeddir noddwyr newydd a chategorïau’r gwobrau ar gyfer 
2017. 
 
Y categorïau ar gyfer 2017 yw:
Gwobr Prentisiaeth a noddir gan Cambria for Business 
Gwobr Unigolyn Busnes y Flwyddyn a noddir gan Westbridge Furniture Designs 
Gwobr Busnes Gorau gyda dros 10 o weithwyr a noddir gan K K Fine Foods 
Gwobr Busnes Gorau gyda llai na 10 o weithwyr, a noddir gan Edge Transport
Gwobr Busnes Gorau i weithio iddo a noddir gan P & A Group of Companies 
Gwobr Entrepreneur, a noddir gan Pochin
Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol, a noddir gan Wates Residential 
Gwobr Technoleg, Arloesi a Menter a noddir gan Kingspan Insulated Panels  
 
Gellir canfod manylion llawn y categorïau ar meini prawf ar wefan Sir y Fflint 
mewn Busnes http://flintshirebusinessweek.co.uk/?lang=cy neu trwy gysylltu â 
Kate Catherall 01352 703221, kate.p.catherall@ÌìÑÄÉçÇø.gov.uk 
Rhaid i ffurflenni cais wediu llenwi a deunydd ategol ddod i law erbyn y 
dyddiad cau 29 Medi