Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2017
  		Published: 14/08/2017
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni ddydd 
Gwener 15 Medi ym Mharc Gwepra, Cei Connah. Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy ywr 
digwyddiad cadwraeth a chymunedol mwyaf mwy na thebyg yng ngogledd ddwyrain 
Cymru a gogledd orllewin Lloegr.
Eleni bydd y digwyddiad ar thema coed ac yn ymestyn i Sir Amwythig, Wrecsam a 
Sir Ddinbych, gydar siroedd hyn yn ymuno 芒 Sir y Fflint, Sir Gaer a Chyfoeth 
Naturiol Cymru fel rhanddeiliaid allweddol, syn gweithio gydai gilydd i 
lanhau鈥檙 Ddyfrdwy bob blwyddyn, a鈥檌 dalgylch. Bydd pawb syn cymryd rhan yn 
gweithion galed i glirio sbwriel yr afon a sbwriel morol, yn ogystal 芒 phlannu 
coed, ac yn paentio a thaclusor lleoedd arbennig ar hyd ei glannau, ei 
harfordir, a鈥檙 dalgylch, o fynyddoedd Cymru i gynefin arfordirol aber afon 
Dyfrdwy, i ffin Sir Amwythig.
Y llynedd, bu cannoedd o bobl yn cymryd rhan a chasglwyd cannoedd o fagiau o 
sbwriel. Yn Sir y Fflint, mae鈥檙 ymdrechion yn cael eu cydlynu gan Geidwaid Cefn 
Gwlad y Cyngor, sy鈥檔 cymryd y cyfle i weithio gyda busnesau lleol, a grwpiau 
cadwraeth a chymunedol, i blannu coed a bylbiau, clirio sbwriel a phaentio 
meinciau. 
Cefnogir y digwyddiad gan lawer o grwpiau cymunedol a nifer o fusnesau, gan 
gynnwys Tesco, Airbus, Kingspan, ENI, a llawer mwy. 
Eleni bydd gan Tesco dros 100 o aelodau staff yn gwirfoddoli eu gwasanaethau ar 
gyfer y gwaith o lanhau, gan weithio mewn 7 safle ar draws y rhanbarth.
Gan wneud effaith sylweddol ar sbwriel arfordirol a鈥檙 aber, maer digwyddiad 
wedi cael gwared ar dunelli o sbwriel o arfordir a chymunedau arfordirol Sir y 
Fflint. Mae hefyd wedi cychwyn adfywiad arfordirol gan weithion agos gyda 
llwybr Arfordir Cymru.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto鈥檔 falch iawn o gynnal lansiad Diwrnod Mawr 
y Ddyfrdwy. Maer digwyddiad wedi mynd yn fwy bob blwyddyn ers iddo gael ei 
sefydlu yn gyntaf gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn 2007 gyda mwy a mwy o 
bobl, grwpiau cymunedol a busnesau yn cymryd rhan bob blwyddyn, ac erbyn hyn 
dymar digwyddiad glanhau ebyr ac afonydd trawsffiniol annibynnol mwyaf y DU, 
fwy na thebyg.
鈥淢aen wirioneddol wych gweld cynifer sydd am helpu i ofalu am ein hamgylchedd 
lleol a鈥檌 ddiogelu. Maer gwirfoddolwyr cymunedol a busnes yn chwarae rhan 
enfawr wrth helpu i sicrhau bod ein harfordir yn cael ei gadwn l芒n i ymwelwyr 
a bywyd gwyllt. Mae miloedd o fagiau o sbwriel wedi eu casglu gan gannoedd o 
wirfoddolwyr dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae digwyddiad eleni yn argoeli i 
fod yn fwy ac yn well nag erioed!
Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, Tim Johnson:
鈥淩ydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy dros y 
deng mlynedd diwethaf a鈥檌 wneud yn gymaint o lwyddiant. Mae wedi tyfu i fod yn 
ddigwyddiad trawsffiniol pwysig syn cwmpasu milltiroedd o鈥檙 arfordir o Dalacre 
i Gaer a Llangollen, a bellach yn cynnwys gogledd Sir Amwythig. Mae gwir 
ymdeimlad o falchder cymunedol, gyda gwirfoddolwyr nid yn unig yn gweithio i 
lanhaur afon, ond hefyd yn plannu coed a bylbiau a phaentio i wellar 
amgylchedd ar hyd y glannau.鈥
Er bod sawl digwyddiad wedi鈥檜 cynllunio鈥檔 barod, mae amser o hyd i gynnwys eich 
grwp, busnes neu sefydliadau yn Niwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni. Cysylltwch 芒鈥檙 
Ceidwaid yn y Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Gwepra yng Nghei Connah ar 01352 
703900 am ragor o wybodaeth. 
Nodyn i olygyddion
Bydd lansiad Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni, wedi鈥檌 noddi gan McDonalds, yn 
digwydd ym Mharc Gwepra, Cei Connah, dydd Gwener 15 Medi. Mae croeso i chi 
anfon cynrychiolydd i fod yn bresennol o 9.30am.