Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Enwi鈥檙 Cymunedau Taclusaf 2017 
  		Published: 09/08/2017
Mae enillwyr pob categori ar gyfer Cymunedau Taclusaf Sir y Fflint 2017 wedi 
derbyn eu gwobrau mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Neuadd Y Sir yn 
ddiweddar.
Yr enillydd ar gyfer y pentref taclusaf gyda phoblogaeth o dan 1,000 oedd 
Bretton Lane gydag Ysceifiog yn yr ail safle. Daeth Llanfynydd yn drydydd.
Higher Kinnerton oedd enillydd y gymuned daclusaf gyda phoblogaeth o dros 1000 
ac o dan 5000, gyda Chaerwys yn cael yr ail wobr. Daeth Llaneurgain yn drydydd.
 Mynydd Isa oedd enillydd y wobr Canol Tref Taclusaf, gyda鈥檙 Wyddgrug yn ail, 
ac aeth y drydedd wobr i Dreffynnon.
 Enillydd yst芒d yr henoed taclusaf oedd Ffordd Gwynedd, Llaneurgain, gyda鈥檙 ail 
wobr yn mynd i Llys y Goron yng Nghaerwys. Daeth Belvedere Close, Queensferry 
yn drydydd a chafodd Heol y Dderwen, Coed-Llai dystysgrif teilyngdod.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd  Brian Lloyd:
鈥淔el bob blwyddyn mae鈥檙 niferoedd a safon y cystadleuwyr wedi bod yn wych 
eleni, ac rwy鈥檔 siwr bod y beirniaid, Les a Sue Starling a Nancy Matthews wedi 
ei chael hin anodd dewis yr enillwyr.
鈥淢aer pwyslais ar wneud cymunedau yn llefydd gwell i fyw ynddynt, ar gyfer 
pobl ac ar gyfer bywyd gwyllt.  Mae鈥檙 gystadleuaeth ond yn digwydd oherwydd y 
bobl sy鈥檔 cymryd rhan ac oherwydd y noddwyr, ac eleni nhw yw Airbus, Cymdeithas 
Tai Clwyd Alyn, Lindop Toyota, Tesco, Toyota Motor Manufacturing (UK) a Warwick 
Chemicals. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus.鈥 
Treuliodd y beirniaid bedwar diwrnod yn ymweld 芒鈥檙 cymunedau a oedd wedi 
cystadlu, ac roeddynt wedi rhyfeddu ar y gwaith a oedd wedi mynd i mewn i greu 
gerddi yn yr ysgolion.   拢100 oedd y wobr gyntaf, 拢70 am yr ail wobr a 拢35 am y 
drydedd wobr.
Maer enillwyr eraill wedi eu rhestru isod.
Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf
Y wobr gyntaf:
Gardd Byw 脗 Chymorth Greenbank Villas, y Fflint.  
Yr ail wobr: 
Chwarel Bryn y Baal  
Y drydedd wobr:
Gardd Capel Quaystone, Cei Connah
Tystysgrif Teilyngdod:
Swinchiard Brook, Y Fflint a Berllan Gymunedol y Santes Fair, yr Wyddgrug.
Eleni roedd 5 ysgol wedi cystadlu fel rhan o鈥檜 Cais Cymunedol.
Gwobr Cyntaf ar y Cyd (Cymeradwyaeth Uchel)
Ysgol Babanod Mynydd Isa (拢40 o dalebau Tesco)
Ysgol Gynradd Brynffordd (拢40 o dalebau Tesco)
 Trydedd Wobr (Cymeradwyaeth)
Ysgol Owen Jones (拢20 o dalebau Tesco)
Rhoddwyd Tystysgrifau Teilyngdod i:
 Ysgol Gynradd Derwen, Higher Kinnerton 
Ysgol Gynradd yr Esgob, Caerwys
Nodyn i olygyddion
Yn y llun atodedig mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Brian Lloyd, 
gyda鈥檙 enillwyr a鈥檙 noddwyr.