天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad Cyngor Sir y Fflint ar Deithio Llesol

Published: 08/08/2017

3 Gorffennaf i 24 Medi 2017 Mae dal amser i chi ddweud eich dweud ar Fap Rhwydwaith Integredig Drafft Teithio Llesol Cyngor Sir y Fflint. Estynnir gwahoddiad i鈥檙 cyhoedd edrych ar y map a鈥檙 atodlenni sydd ar gael ar lein yn http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Active-Travel-Integrated-Ne twork-Map-Consultation.aspx. Cynhelir y sesiwn alw heibio cyhoeddus olaf ym Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint ar 5 Medi 2017 rhwng 2pm a 7pm. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 鈥淢aer Ddeddf Teithio Llesol y cyntaf o鈥檌 math yng Nghymru, ac yn rhoi cyfle i ni wneud Cymru yn genedl teithio llesol. Mae Sir y Fflint wedi mapio ei gynigion ar gyfer gwella isadeiledd cerdded a beicio dros gyfnod 15 mlynedd y cynllun. Rydym eisiau adborth y cyhoedd ar y cynigion i helpu i siapio鈥檙 Map Rhwydwaith Integredig cyn ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ym mis Tachwedd i gael ei gymeradwyo鈥�