Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Criw Celf Gogledd Cymru – Galwad Agored am Artistiaid
  		Published: 07/08/2017
Galwad agored am artistiaid i weithio gyda Chriw Celf Gogledd Cymru
Sefydlwyd Criw Celf Gogledd Cymru yng Ngwynedd yn 2007 ac mae wedi bod yn 
bartneriaeth rhwng Cyngor Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir 
Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ers 2012.  
Dyma’r prosiect celf weledol cyntaf ar gyfer gogledd Cymru gyfan sy’n targedu 
artistiaid ifanc mwy galluog a thalentog.
Bydd cyfres o chwe gweithdy’n cael eu cynnig i bob cyfranogwr gan weithio mewn 
safleoedd ysbrydoledig ledled y rhanbarth. Rydym yn chwilio am artistiaid, 
gwneuthurwyr ac ymarferwyr creadigol proffesiynol a hynod brofiadol i redeg 
gweithdai gan edrych ar amrywiaeth o dechnegau artistig ac yn gweithio gydag 
amrywiaeth o ddeunyddiau. Bydd gan bob sir 3 grwp Criw Celf sef blwyddyn 5 a 6, 
blwyddyn 7 ac 8 a blwyddyn 9 a bydd yr holl gyfranogwyr yn cael eu dewis drwy 
broses ymgeisio.
Rydym hefyd yn chwilio am artistiaid i redeg gweithdai fel rhan o’r Portffolio, 
ar gyfer Myfyrwyr TGAU, a rhaglen Codir Bar, ar gyfer myfyrwyr AS a Lefel A.
Mae Criw Celf Gogledd Cymru yn gwahodd artistiaid, gwneuthurwyr ac ymarferwyr 
creadigol i anfon llythyr yn mynegi diddordeb trwy e-bost ar gyfer ein rhaglen 
2017/18.
Dylech gynnwys cynnig ar gyfer dosbarth meistr a pha ddeunyddiau a thechnegau a 
ddefnyddir. Dylech hefyd nodi pa siroedd yng ngogledd Cymru yr ydych yn gwneud 
cais i weithio ynddynt. Y ffi ddyddiol yw £250 gan gynnwys deunyddiau, teithio 
a chynhaliaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer afnon llythyr yn mynegi diddordeb a CV gyfredol yw 31 
Awst 2017.
Ariennir Criw Celf gan Gyngor Celfyddydau Cymru a phob un o’r chwech Awdurdod 
Lleol yng ngogledd Cymru.
Anfonwch eich ceisiadau wedi’u cwblhau dros e-bost at 
gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk