Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint yn Croesawu Ymwelwyr o Japan
  		Published: 03/08/2017
Yn ddiweddar cynhaliodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Brian 
Lloyd, Dderbyniad Dinesig er mwyn croesawu chwe myfyriwr o Japan i鈥檙 sir. 
Mynychwyd y derbyniad gan 40 o bobl, gan gynnwys dehonglydd, Mr Koki Kinouchi, 
er mwyn helpu鈥檙 myfyrwyr i fwynhau eu noson. 
Mae鈥檙 rhaglen hon yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau addysgol a 
diwylliannol ar gyfer gwesteion Japaneaidd, gan gynnwys ymweliadau 芒 Llundain, 
Lerpwl, Rhydychen, Caer, Castell y Waun, Bae Colwyn, Castell Conwy, Llandudno 
a鈥檙 Wyddgrug.
Ar 么l rhan Cymru o鈥檙 rhaglen, bydd ein myfyrwyr ni o Sir y Fflint yn ymweld 芒 
Miyagi Prefecture lle mae鈥檙 cyfnewid wedi bod yn digwydd ers 1991. 
Y myfyrwyr Japaneaidd yw Arisa Inoue, Kohei Sato, Miki Numata, Rika Sato,Tomoko 
Oyama a Yukito Numata
Y myfyrwyr o Sir y Fflint a fydd yn teithio i Japan yw: Cassia Hashempour, 
Ellie Harper, Megan Owens, Phoebe Lewis, Sophie Hodby a Samuel Wiggs
Meddai Cynghorydd Lloyd:
Mae鈥檔 bleser mawr gen i groesawu ein hymwelwyr o Japan.  Rwy鈥檔 gobeithio y 
byddant yn mwynhau eu hymweliad ac yn ei weld yn brofiad gwerthfawr.  Mae鈥檙 
cyfnewid hwn yn rhoi cyfle gwych i鈥檙 ddwy wlad ddysgu am ffordd wahanol o fyw.  
Bydd y myfyrwyr yn aros gyda theuluoedd, gan mai dyma鈥檙 ffordd orau o ddysgu; 
drwy drochi eu hunain yn yr iaith a鈥檙 diwylliant  ac mewn amgylchedd gofalgar 
gyda鈥檜 cyd-fyfyrwyr i鈥檞 cefnogi, byddant gyda gobaith yn cael mewnwelediad da 
i鈥檔 ffordd ni o fyw.
鈥淩wy鈥檔 gobeithio y gwnaiff y cyfnewid barhau am flynyddoedd i ddod gan ei fod 
yn gyfle mor wych.鈥
I fod yn gymwys i wneud cais am le ar y cynllun cyfnewid y flwyddyn nesaf, bydd 
yn rhaid i fyfyrwyr fod yn 16-18 oed ar 1 Medi 2017, mewn addysg llawn amser yn 
Sir y Fflint neu mewn addysg llawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint.
Er mwyn cael syniad o鈥檙 hyn y bydd y cynllun cyfnewid yn ei olygu i fyfyrwyr 
a鈥檜 teuluoedd, bydd noson gyflwyno鈥檔 cael ei chynnal nos Lun, 23 Hydref am 
6.30pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug.  Bydd y myfyrwyr sy鈥檔 
cymryd rhan yn y cynllun eleni鈥檔 rhoi cyflwyniad ar eu profiadau a鈥檙 manteision 
maen nhw wedi鈥檜 hennill yn sgil hynny.  Bydd rhieni鈥檙 myfyrwyr hefyd yn rhoi 
mewnwelediad i鈥檙 cynllun o鈥檜 persbectif nhw. 
Bydd ffurflenni cais ar gyfer y cynllun cyfnewid ar gael ar y noson neu drwy 
gysylltu 芒 Karen Jones ar 07759295984 neu drwy anfon e-bost at 
karen.jones@flintshire.gov.uk. 
Noddir y cynllun cyfnewid gan Ymddiriedolaeth Cyfnewid Ieuenctid Japaneaidd 
Optec Sir y Fflint yn ogystal 芒 grantiau a rhoddion, gan gynnwys rhoddion gan 
Toyota UK  yng Nglannau Dyfrdwy a Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr, sy鈥檔 cefnogi 
rhaglenni addysgol Japaneaidd. 
Yn y llun gwelir y myfyrwyr o Japan a Sir y Fflint gyda rhieni, gwarcheidwaid, 
trefnwyr, ymddiriedolwyr, a Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Brian Lloyd a Mrs 
Jean Lloyd.