Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ailwynebu Cerbytffordd yr A541 Ffordd Caer; Yr Wyddgrug
  		Published: 31/07/2017
Mae Cyngor Sir Y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi cael ei ddiogelu er 
mwyn ail-wynebu鈥檙 gerbytffordd a gwneud gwaith cysylltiol ar yr A541 Ffordd 
Caer, Yr Wyddgrug, rhwng cylchfan Tesco a chylchfan Wylfa gan ddechrau ddydd 
Llun 7 Awst 2017 am tua thair wythnos. 
Er mwyn hwyluso鈥檙 gwaith bydd cyfyngiad un ffordd dros dro mewn lle o nos Lun 7 
Awst, yn gwahardd cerbydau rhag teithio ir Wyddgrug o gylchfan Wylfa. Bydd 
cerbydau yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A494 a鈥檙 A5119, New Brighton. 
 
Bydd y cyfyngiad unffordd yn ei le dros gyfnod y gwaith er mwyn sicrhau 
diogelwch y gweithlu sy鈥檔 gwneud y gwaith a defnyddwyr y briffordd. 
Bydd mynediad i eiddo a busnesau unigol yn cael ei gynnal, er maen bosib y 
bydd peth oedi. 
Mae鈥檙 Cyngor a鈥檙 contractwr Roadway Civil Engineerig Ltd, yn ymddiheuro am 
unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei 
achosi, a byddwn yn gwneud y gwaith cyn gynted ag y gallwn. 
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Carolyn Thomas: 
 鈥淒wi wrth fy modd ein bod wedi gallu dod hyd i gyllid o fewn y cyfyngiadau 
ariannol i ariannu鈥檙 cynllun allweddol hwn i gynnal a chadw un or prif lwybrau 
mewn ir Wyddgrug, ac mae hyn unwaith eton arddangos ymrwymiad y weinyddiaeth 
bresennol tuag at y rhwydwaith priffyrdd.   Rwy鈥檔 ymwybodol bod y tair wythnos 
nesaf yn mynd i fod yn anodd i gymudwyr a busnesau, ond er mwyn helpu i 
liniaru鈥檙 amhariad, trefnwyd y gwaith rhwng dau o brif ddigwyddiadau鈥檙 dref - 
Gwyl Canu鈥檙 Enaid a Chanu Glas Gogledd Cymru a鈥檙 Wyl Fwyd.鈥