Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Fflachdorf Plant Sir y Fflint! 
  		Published: 28/07/2017
Mae cynlluniau chwarae Sir y Fflint yn cymryd rhan mewn digwyddiad i ddathlu 30 
mlynedd o Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol y DU ar Ddydd Mercher 2 Awst.  
Bydd bron i 60 o safleoedd yn cymryd rhan mewn ‘Fflachdorf’ ledled y sir. Bydd 
hwn yn ddigwyddiad mawr ym mhob un o’n cymunedau cynllun chwarae’r haf, ac fe 
amcangyfrifir y bydd 1,200 o blant yn cymryd rhan.  Bydd y safle fwyaf yn 
Quayplay yng Nghei Connah.
Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y bore a’r prynhawn – pob un yn 4 munud o 
hyd.
Pob safle yn y bore (10:30am i 12:30pm) Fflachdorf am 11:30am 
Quayplay (10:00am – 11:45am) Fflachdorf am 11:30am
Pob safle yn y prynhawn (1:30pm – 3:30pm) Fflachdorf am 2:30pm
Mae’r digwyddiadau wedi cael eu trefnu gan dîm Celfyddydau, Diwylliant a 
Digwyddiadau Sir y Fflint.  I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Janet 
Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae gyda Chyngor Sir y Fflint drwy ffonio 01352 
702456 neu e-bostiwch Janet.Roberts2@ÌìÑÄÉçÇø.gov.uk