Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwasanaeth Dinesig y Cadeirydd
  		Published: 26/07/2017
Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal gwasanaeth dydd Sul Dinesig yn 
agos at ddechrau blwyddyn newydd y Cyngor, syn dechrau ym mis Mai. 
Cadeirydd newydd y Cyngor sy’n dewis yr Eglwys. Mae Cadeirydd y Cyngor yn dewis 
aelod o’r clerigwyr i weithredu fel ‘Caplan y Cadeirydd’ yn ystod eu blwyddyn 
mewn swydd. Eleni,  y Caplan yw’r Parchedig Kevin Horswell a chynhaliwyd y 
Gwasanaeth Ddinesig yn Eglwys Santes Fair yn yr Wyddgrug dydd Sul, 23 
Gorffennaf. 
 Mynychodd yr Uchel Siryf, Mrs Howard, a’i gwr, Dirprwy Raglaw, David Catherall 
a’i wraig, yr Arglwydd ar Fonesig Jones, yn ogystal ag aelodau’r cyngor a’r 
gymuned leol.    Ar ôl y gwasanaeth, darparodd Cadeirydd y Cyngor ai gymar 
lluniaeth i’w gwesteion yn yr eglwys.
Or chwith ir dde: Y Cyng. Chris Bithell, Parchedig Kevin Horswell, Colin 
Everett – Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Cymar y Cadeirydd Mrs Jean 
Lloyd, Cynghorydd Gadeirydd Brian Lloyd, Y Gwir Anrh. Arglwydd Jones a’r 
Fonesig Jones.