Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn dathlu ennill gwobrau cenedlaethol
Published: 24/07/2017
Bu Cyngor Sir y Fflint yn enillydd llwyddiannus iawn yng Seremoni Wobrwyo
Adeiladu Arbenigrwydd Cymru (AAC), a gynhaliwyd yn y Celtic Manor ddydd Gwener
14 Gorffennaf.
Yn y seremoni, a gyflwynwyd gan Jason Mohammad, dyrannwyd gwobr 鈥淐leient y
Flwyddyn ir Cyngor ar 么l cael ei enwebu gan ei gontractwr, Wates Residential,
yn ogystal ag un arall o鈥檌 gontractwyr, Galliford Try, gan dderbyn 鈥淕wobr
Gynaliadwyedd鈥 am Gampws Dysgu blaenllaw Treffynnon.
Mae Gwobrau AAC yn fesurydd ar gyfer llwyddiant diwydiant adeiladu Cymru. Ers
dechraur Gwobrau yn 2006, mae prosiectau a sefydliadau sydd wedi cymryd rhan
wedi darparu buddion ir gymuned, o gymorth i dros 300 o elusennau, i 1,500 o
leoedd mewn ysgolion a chydlynu tua 10,000 o oriau o waith gwirfoddol.
Enwebwyd y Cyngor gan Wates Residential am eu gwaith partneriaeth ar y Rhaglen
Tai ac Adfywio Strategol (SHARP). O鈥檙 cychwyn, bu鈥檙 ddau鈥檔 gweithio gyda鈥檌
gilydd i sicrhau bod dull o weithio ar y cyd ym mhob agwedd o ddylunio a
chynllunior cynllun, gan hefyd weithio i ymgysylltu 芒r gymuned a darparu
nifer o fanteision cymunedol i drigolion lleol. Roedd grwpiau gwaith
prosiectaun sicrhau bod dull o weithio鈥檔 agos, mewn t卯m ar gyfer yr holl
weithgarwch adeiladu, masnachol ac ymgysylltu 芒r gymuned.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
鈥淵 rhaglen SHARP yw鈥檙 gyntaf o鈥檌 math yng Nghymru ac mae鈥檔 gosod meincnod
cenedlaethol ar gyfer safon a dylunio. Rydym yn falch iawn o ennill y wobr
fawreddog yma, a bod ein rhaglen dain cael ei hamlygu fel hyn. Mae nifer o
awdurdodau lleol eraill wedi ymweld 芒 ni er mwyn gweld y cynnydd sy鈥檔 cael ei
wneud ac maen nhw bellach am ddefnyddio鈥檙 model arloesol hwn yn eu hardaloedd
eu hunain. Diolch i bawb yn Wates am ein henwebu ni. Mae Wates wedi bod yn
bartner arbennig ac fe fyddwn ni鈥檔 parhau i weithio gyda nhw i ddarparu tai o
safon i drigolion Sir y Fflint.鈥
Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential:
鈥淗offai pawb yn Wates Residential longyfarch y Cyngor am ennill y wobr hon,
sy鈥檔 gydnabyddiaeth haeddiannol o鈥檙 gwaith adfywio pwysig mae鈥檔 ei wneud ar
draws Sir y Fflint. Rydyn ni鈥檔 falch o fod yn gweithio gyda鈥檙 Cyngor ar y
rhaglen SHARP, a fydd yn allweddol wrth fynd ir afael 芒r diffyg tai sydd yn y
sir.
鈥淢ae鈥檙 buddsoddiadau sylweddol sy鈥檔 rhan o鈥檔 gwaith ar y cyd hefyd yn
galluogi鈥檙 ddau sefydliad i greu nifer o gyfleoedd am waith a hyfforddiant
lleol ac, wrth i鈥檙 prosiect fynd yn ei flaen, fe fyddwn ni鈥檔 parhau i ddod o
hyd i ffyrdd y gallwn effeithio鈥檔 gadarnhaol ar gymunedau Sir y Fflint.
Galliford Try oedd y contractwr a ddarparodd y Campws Dysgu modern yn
Nhreffynnon.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir
y Fflint:
鈥淥r cychwyn, roedd Galliford Try鈥檔 sicrhau bod cynaliadwyedd yn greiddiol ym
mhob agwedd or prosiect. Roedd llawer iawn o wastraff ar 么l dymchwel yr hen
ysgol uwchradd ond fe ailddefnyddiwyd y gyfran anhygoel o 90% o鈥檙 gwastraff
dymchwel ar y safle. Ar ben hynny, cafwyd 55 o gyfleoedd am waith a 19 o
brentisiaethau yn sgil y prosiect, yn ogystal 芒 nifer o weithgareddau
addysgiadol a chymunedol.
Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr Galliford Try yng Ngogledd-orllewin
Lloegr:
鈥淢ae Campws Dysgu Treffynnon bellach yn brosiect enghreifftiol, nid yn unig yn
rhanbarthol, ond yn genedlaethol hefyd. Mae鈥檙 t卯m wedi bod yn anhygoel wrth
gyflawni mwy na鈥檙 targedau a osodwyd ar eu cyfer nhw, ac mae鈥檙 gydnabyddiaeth
wobrwyol maen nhw wedii derbyn gan Adeiladu Arbenigrwydd yn haeddiannol iawn.鈥
Bydd y ddwy wobr yn mynd ymlaen i Wobraur DU yn nes ymlaen eleni.