天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Lloegr

Published: 24/07/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydweithio gydag Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Lloegr i godi arian er cof am gyn gydweithiwr. Gyda thristwch bu farw Helen Stappleton, Prif Swyddog Pobl ac Adnoddau fis Medi y llynedd. Cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug ar 18 Gorffennaf, diwrnod pen blwydd Helen. Roedd Peter, sef gwr Helen a鈥檌 mab James yno hefyd yn helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth. Gwerthodd y grwp fathodynnau鈥檙 elusen, ffresnyddion aer, beiros ac eitemau eraill yn ogystal 芒 darparu llyfrynnau gwybodaeth am yr elusen. Dywedodd Sharon Knott, Cadeirydd Pwyllgor yr Wyddgrug o Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Lloegr a threfnydd y digwyddiad: 鈥淢ae Pwyllgor yr Wyddgrug yn grwp o wirfoddolwyr sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed i drefnu amrywiol ddigwyddiadau trwy鈥檙 flwyddyn fel nosweithiau ras, dawns yr haf, teithiau noddedig a digwyddiadau rhedeg, boreau coffi a chinio. Rydym yn ffodus iawn i gael nifer o bobl sy鈥檔 ein cefnogi yn ystod y flwyddyn gyda鈥檜 digwyddiadau codi arian eu hunain er budd Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Lloegr trwy gynnal barbeciws neu de prynhawn neu roi rhoddion yn hytrach nag anrhegion pen blwydd. Gyda鈥檜 cefnogaeth nhw, y llynedd codwyd dros 拢32,000 i helpu鈥檙 ymchwil hanfodol i achosion a thriniaeth canser yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru. Os hoffai unrhyw un gyfrannu neu os ydynt angen cefnogaeth gyda鈥檜 digywddiadau codi arian eu hunain yna gofynnwch iddynt gysylltu 芒 mi shazknott@yahoo.co.uk.鈥 Ym mis Mehefin eleni, bu rhai o ffrindiau a chydweithwyr Helen yn cymryd rhan mewn taith gerdded canol nos yn Wrecsam a chodwyd 拢2,200 i Dyr Eos wnaeth ddarparu gofal gwych i Helen a鈥檌 theulu. Talodd y grwp deyrnged i Helen: 鈥淩oedd pob un ohonom wedi gweithio gyda ac i Helen am lawer o flynyddoedd. Gwnaethom ddewis yr enw Hel鈥檚 Belles i鈥檔 t卯m gan fod Helen yn brydferth ym mhob ffordd. Mae gan gymaint ohonom atgofion oes amdani ac ni wnawn byth ei anghofio. Mae鈥檔 parhau gyda ni bob dydd nid yn unig yn ein bywyd gwaith, ond hefyd yn ein bywyd personol, gan ein bod ac rydym yn d卯m o ffrindiau da.