Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Oes newydd Aura
Published: 18/07/2017
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 18 Gorffennaf, daeth Cyngor Sir y Fflint
ac Aura Leisure and Libraries Ltd (Aura) i gytundeb ar bob mater ariannol.
Golyga hyn y bydd Aura, cwmni elusennol sy鈥檔 berchen i鈥檙 gweithwyr, yn dechrau
rheoli gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a threftadaeth yn y sir o 1 Medi
2017.
Gwnaethant hefyd gyhoeddi buddsoddiad o fwy na 拢3m mewn cyfleusterau chwaraeon
a hamdden yn Sir y Fflint. Bydd gwaith gwella ar bob prif ganolfan hamdden yn
cael ei wneud a bydd yn cynnwys gwaith i offer a pheiriannau hanfodol, ac
adeiladwaith yr adeilad. Bydd buddsoddiad yn y caeau bob tywydd yn Ysgol Alun
yr Wyddgrug, Ysgol Uwchradd Penarl芒g a dau o鈥檙 chwe chae 3G yng Nghanolfan
Hamdden Glannau Dyfrdwy yn arwain at ddisodli ac uwchraddio pob un.
Mae cynlluniau ar gyfer cyfleusterau iechyd a ffitrwydd newydd yn cael eu
datblygu ar gyfer Canolfan Hamdden yr Wyddgrug a Phafiliwn Jade Jones, gan
gynnwys ystafelloedd newid newydd yn y pwll nofio yn y Fflint. Bydd hyn yn
gwella鈥檙 profiad i gwsmeriaid presennol yn fawr ac yn denu cwsmeriaid newydd
i鈥檙 ddwy ganolfan. Hwn yw cam cyntaf datblygiadau newydd ac mae datblygiadau
diweddarach yn cael eu hystyried ar gyfer trefi eraill.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥淢ae鈥檔 wych gweld dechrau鈥檙 cwmni newydd hwn sy鈥檔 berchen i weithwyr presennol
y Cyngor. Byddwn yn cydweithredu gydag Aura sy鈥檔 golygu, yn hytrach na gorfod
ystyried dyfodol rhai o鈥檔 canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, rydym yn diogelu
swyddi ar y cyd a buddsoddi yn ein canolfannau hamdden i鈥檞 gwneud yn well i鈥檔
preswylwyr.鈥
Meddai Christine Edwards, Cadeirydd Aura Leisure and Libraries:
鈥淢ae hon yn garreg filltir enfawr i Aura Leisure and Libraries. Mae鈥檙 Bwrdd
wedi bod yn gweithio鈥檔 galed iawn gyda gweithwyr i sicrhau bod gwasanaethau yn
cael eu gwella a bod cwsmeriaid yn gweld budd go iawn. Mae cyhoeddiad dau
gyfleuster iechyd a ffitrwydd newydd mae鈥檙 cwmni yn buddsoddi ynddynt yn dangos
ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth sylweddol i breswylwyr Sir y Fflint.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
鈥淵 gwaith hwn, ynghyd 芒 Throsglwyddo Asedau Cymunedol Canolfan Hamdden
Treffynnon a Phwll Nofio Cei Connah, yw鈥檙 rheswm pam ein bod yn gallu dweud yn
falch bod Cyngor Sir y Fflint wedi cadw ei holl ganolfannau hamdden wrth orfod
gwneud lleihad o 30% yn y gyllideb flynyddol ar gyfer y gwasanaethau hyn,
ynghyd 芒 chyhoeddi buddsoddi cyfalaf mawr 鈥 mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol.鈥