Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyhoeddi mannau gwyrdd blaenllaw
  		Published: 18/07/2017
Cyngor Sir y Fflint a Pharc Treftadaeth Maes Glas yn cael Gwobr y Faner Werdd 
Heddiw (Dydd Mawrth 18 Gorffennaf), mae Cadwch Gymru鈥檔 Daclus wedi cyhoeddi 
enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni 鈥 marc rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o 
ansawdd.  
Mae cyfanswm o 183 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi bodloni鈥檙 safon 
uchel sydd ei angen i gael Gwobr flaenllaw y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y 
Faner Werdd.
Bydd y baneri yn chwifio ym Mharc Gwepra a Pharc Treftadaeth Maes Glas i 
gydnabod y cyfleusterau ardderchog a鈥檙 ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o 
safon uchel.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Carolyn Thomas: 
鈥淢ae hwn yn gyflawniad arbennig, da iawn bawb! Llongyfarchiadau i bawb am eu 
gwaith caled wrth gynnal a chadw鈥檙 parciau i safon uchel, ymrwymiad sydd 
bellach wedi ei gydnabod.鈥
Dywedodd Ymddiriedolwr Dyffryn Maes Glas, Mary Auty: 
Mae hyn yn newyddion gwych, llongyfarchiadau mawr ir holl wirfoddolwyr, 
diolch yn fawr iawn i bawb syn rhoi ou hamser i ofalu am y gofodau hyn. 
Caiff cynllun Gwobr y Faner Werdd ei gyflwyno yng Nghymru gan yr elusen 
amgylcheddol, Cadwch Gymru鈥檔 Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff 
ei beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i 
ymweld 芒鈥檙 safleoedd sy鈥檔 gwneud cais a鈥檜 hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, 
yn cynnwys safonau garddwriaethol, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a 
chyfranogiad cymunedol.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru鈥檔 Daclus:
鈥淢ae Gwobr y Faner Werdd yn ymwneud 芒 rhoi pobl mewn cysylltiad 芒鈥檙 parciau a鈥檙 
mannau gwyrdd gorau. Maen bleser gan Gadwch Gymru鈥檔 Daclus gynnal y cynllun 
yng Nghymru am ein bod yn gwybod y gall cael amgylchedd o ansawdd da gael 
effaith fawr ar ein cymunedau, ein hiechyd a鈥檔 lles a鈥檙 economi.
鈥淗offwn longyfarch  a diolch i bawb wnaeth 
weithio鈥檔 ddiflino i gynnal y safonau y mae Gwobr y Faner Werdd yn galw 
amdanynt. Rwyf yn annog pawb i fynd allan i鈥檙 awyr agored ac archwilio鈥檙 ystod 
amrywiol o gyfleusterau rhagorol sydd ar drothwy ein drws.鈥
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus 
www.keepwalestidy.cymru/greenflag