Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Maes Parcio
Published: 14/07/2017
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 18 Gorffennaf, gofynnir i鈥檙 Cabinet gymeradwyo
cyfres o gynigion yn ymwneud 芒 strategaeth parcio ceir y Cyngor.
Mae鈥檙 cynigion yn ymwneud 芒 thair tref: Y Fflint, Bwcle a Threffynnon, ac fe
geisir cymeradwyaeth fel a ganlyn:
1. Cyflwyniad graddol i weithredu Strategaeth Maes Parcior Fflint - ni
chyflwynwyd taliadau parcio yn y Fflint yn ystod y gwaith ailddatblygu
cychwynnol yn y dref, a bellach mae cynllun i gyflwyno taliadau yn y dref yn
raddol, wrth ir gwaith datblygu ddod i ben. Yn ogystal, bydd cynigion ar
gyfer cyfyngiadau parcio ar y stryd ychwanegol, a chynlluniau i symud llwybr
beicio Church Street i stryd gyfagos i ganiat谩u mwy o barcio arhosiad byr ar y
stryd, sydd am ddim, yn destun proses ymgynghori anffurfiol.
2. Cais i Gynghorau Tref Bwcle a Threffynnon gynnal ymgynghoriad anffurfiol i
sefydlu eu safbwynt ar adolygiad ffurfiol o barthau cerddwyr sydd yn eu lle ar
hyn o bryd yng nghanol trefi鈥檙 ddau le. Er bod yr ardaloedd hyn yn rhoi
profiad siopa diogel a dirwystr, caiff ei awgrymu eu bod yn gallu cael effaith
negyddol ar fusnesau ar y strydoedd hynny, oherwydd ni all siopwyr ymweld yn
sydyn a chasglu eitemau.
3. Cynnwys maes parcio Stryd y Ffynnon yn strategaeth maes parcio Treffynnon 鈥
i ychwanegu 50 man parcio ychwanegol yn y dref.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淐yflwynwyd strategaeth maes parcio鈥檙 Cyngor i wella bywiogrwydd a bwrlwm canol
trefi, drwy reoli meysydd parcion effeithiol, ac rydym yn cynnig rhai
newidiadau ac ychwanegiadau ir strategaeth hon. Byddwn yn ymgynghori ar yr
holl gynigion gydag aelodau Cyngor lleol, Cynghorau Tref, preswylwyr a busnesau
cyn y gwneir unrhyw newidiadau.鈥