Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Datganiad gan y Cabinet - Casglu Gwastraff a Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref 
  		Published: 18/07/2017
Pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir 
y Fflint gymeradwyo newidiadau i鈥檙 polisi gweithrediadau casglu gwastraff 
cartref a chanolfannau ailgylchu gwastraff cartref.
Mae鈥檙 adroddiad yn rhoi diweddariad i鈥檙 Cabinet ar y newidiadau i鈥檞 gasgliadau 
gwastraff ochr y ffordd ac ailgylchu, sydd i鈥檞 gweithredu ym mis Medi. Mae 
hefyd yn rhoi diweddariad ar raglen ailddatblygu Canolfannau Ailgylchu 
Gwastraff Cartref y Cyngor.
Mae鈥檙 Cyngor yn parhau i berfformio鈥檔 dda o ran cyrraedd targedau ailgylchu 
Llywodraeth Cymru gyda鈥檌 berfformiad diweddaraf o 68% yn 2016/17. Fodd bynnag, 
er mwyn cyrraedd y targed nesaf o ailgylchu 70% erbyn 2025, cynigir y 
newidiadau canlynol o ran rheoli a gweithredu safleoedd Canolfannau Ailgylchu 
Gwastraff Cartref y Sir.
Yn dilyn cwblhau rhaglen ailddatblygu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, 
estyn y cynllun trwyddedau er mwyn i bob fan 芒 thrwydded ddefnyddio pob safle, 
bydd rheolau llymach ar faint yn ogystal 芒 dim ond caniat谩u trelars un echel.
Bydd amseroedd agor newydd i adlewyrchu鈥檙 adegau prysuraf, sef rhwng 9 am a 5 
pm yn y gaeaf a rhwng 10 am a 6 pm yn yr haf.
Bydd adolygiad o sut caiff y safleoedd eu rheoli yn y dyfodol gan edrych ar 
ddefnyddio partner busnes i helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu gan gysylltu 
gyda menter gymdeithasol neu sefydliad elusennol o bosibl.
Caiff y safleoedd eu hailfrandio fel Canolfannau Ailgylchu yn hytrach na 
鈥楽afleoedd Sgipiau鈥.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Carolyn Thomas: 
鈥淩oeddem yn falch o gael cyllid grant gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i 
ddarparu cyfleusterau modern, haws i鈥檞 defnyddio ond roedd hyn ar y sail ein 
bod yn cynyddu ein cyfraddau ailgylchu ar bob safle.  Bydd gweithredwyr wrth 
law i helpu preswylwyr i fynd trwy eitemau a brynwyd fel eu bod yn cael gwared 
arnynt yn y cynwysyddion iawn.
Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn nodi rowndiau casglu gwastraff newydd ar sail y 
cynnydd tai a ragwelir dros y 5 mlynedd nesaf.   Bydd hyn yn golygu, ar gyfer 
nifer fach o breswylwyr (tua 500), y bydd angen newid eu diwrnod casglu.  
Aeth y Cynghorydd Thomas ymlaen:
鈥淩ydym hefyd yn cyflwyno cerbydau ailgylchu newydd a fydd yn caniat谩u i ni 
gasglu amrywiaeth ehangach o blastigau a batris ar ochr y ffordd, gan ei gwneud 
yn haws i breswylwyr ailgylchu mwy.  Oherwydd bydd mwy o gyfle i ailgylchu, 
rydym yn rhagweld y bydd y gwastraff nad oes modd ei ailgylchu a roddir mewn 
biniau du yn lleihau, byddwn yn parhau i gymryd dull cadarn gyda phreswylwyr 
sy鈥檔 parhau i gyflwyno gwastraff ychwanegol mewn bagiau gyda鈥檜 bin olwynion a 
chymryd camau gorfodi lle bo angen.
鈥淩wyf wedi bod yn cyfarfod gyda鈥檙 gweithlu fel yr Aelod Cabinet newydd ac rwy鈥檔 
gwerthfawrogi pa mor galed maen nhw鈥檔 gweithio, gan gerdded hyd at 12 milltir, 
mewn tywydd anodd yn aml. Gofynnwyd iddynt roi鈥檙 cynwysyddion yn 么l lle maen 
nhw鈥檔 dod o hyd iddynt a pheidio gadael sbwriel, ond rhaid i ni weithio mewn 
partneriaeth ac os yw gwastraff yn cael ei roi allan yn rhy gynnar neu heb ei 
ddiogelu, gall gael ei chwythu o gwmpas a gall bagiau plastig gael eu rhwygo ar 
agor gan fermin.  Ar ddiwrnodau poeth, gall y biniau gwastraff bwyd fod yn 
drewi os na ch芒nt eu golchi. 
鈥淕wyliwch am y taflenni drwy eich drws sy鈥檔 nodi beth gellir ei ailgylchu nawr 
a鈥檙 calendrau newydd a fydd yn cynnwys dyddiadau casglu dros gyfnod y Nadolig 
felly gwnewch yn siwr eich bod yn cadw鈥檙 rhain yn rhywle diogel. Bydd staff o鈥檙 
gwasanaeth Strydwedd yn ymweld ag eiddo sy鈥檔 cael eu heffeithio gan newidiadau 
i ddiwrnodau eu casgliadau gwastraff i egluro鈥檙 broses a鈥檙 dyddiadau ar gyfer y 
newid.鈥