ÌìÑÄÉçÇø

Alert Section

Arolwg Hapus, Iach, Diogel – Gwanwyn 2026 - 5 - 11 oed (Ysgol Gynradd) (Edited)


Os ydych chi'n berson ifanc rhwng 5 ac 11 oed sy'n byw yn Sir y Fflint, hoffem glywed gennych. Bydd eich barn yn helpu i wella cyfleoedd chwarae, mannau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ar draws Sir y Fflint. Bydd yr arolwg yn helpu eich cyngor lleol i ddeall beth mae pobl ifanc angen a beth all wella yn eich cymunedau.

Mae'r arolwg Hapus Iach Diogel wedi'i ddatblygu gan Gyngor Ieuenctid Sir y Fflint a Sir y Fflint Ifanc i gasglu barn a safbwyntiau plant a phobl ifanc ar deimlo'n hapus, yn iach ac yn ddiogel yn Sir y Fflint.

Rydym yn gwahodd plant a phobl ifanc 5–25 oed i gymryd rhan. Nodwch fod yna arolwg ar gyfer plant 5–11 oed (plant oedran ysgol gynradd) ac arolwg ar gyfer pobl ifanc 11–25 oed (pobl ifanc oedran ysgol uwchradd a thu hwnt). Gellir cwblhau'r arolwg hwn ar-lein neu ar bapur. I gwblhau'r arolwg ar bapur, cysylltwch â healthyschools@flintshire.gov.uk. Mae'r arolwg hwn yn ddienw.

Bydd yr arolwg yn rhedeg o ddydd Llun Mai y 25ain am 9am tan ddydd Gwener Gorffennaf y 3ydd am 4pm.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu i lywio blaenoriaethau pobl ifanc y gall Cyngor Ieuenctid Sir y Fflint a Sir y Fflint Ifanc eu cefnogi hefo yn ystod 2026–2027.

Atebwch yr arolwg yma:

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 25/05/2026

    Dyddiad cau: 03/07/2026

  • Manylion cyswllt
  • Addysg ac Ieuenctid

    E-bost: ysgolioniach@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267224923