天涯社区

Alert Section

Gostwng allyriadau carbon y sir


 Green energy 

Ôl Troed Carbon Sir y Fflint 

Allyriadau nwyon tŷ gwydr sir y Fflint 

Mae sir y Fflint wedi gweld gostyngiad cyffredinol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr ers 2005 fel y dangosir yn Ffigur 6. Mae’r allyriadau yn ystod y cyfnod hwn wedi cael cyfnodau o gynnydd yn benodol tua 2011/12 a 2017/18.

 

Fig 6 Cym

 

Allyriadau Nwyon T欧 Gwydr Sir y Fflint yn 么l sector
Blwyddyn Diwydiannol a Masnachol Sector Cyhoeddus Ynni Domestig Cludiant Lallyriadau Net Defnydd Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth Amaethyddiaeth Gwastraff
2005 1141.5 31.6 416 422.1 20.2 184.8 359.5
2006 1542.7 33.3 417 426.3 17.8 173.9 338.8
2007 1491.6 31.1 399 428.8 16 183 281
2008 1343.6 29.6 398.8 415 16.5 176.5 243.1
2009 1001.1 25.4 366 402.4 15 171.6 208.4
2010 914.4 25.8 393.2 392.2 14.3 172.6 200.2
2011 880.1 22.6 339.1 381.1 13.9 168.2 139
2012 1147.7 26.8 360.5 373.6 16 171.5 109.1
2013 1155 25.6 351 369.7 13.3 157.7 103.4
2014 1154.7 22.1 298.6 377.1 12.4 171.8 75.3
2015 1122.2 19.3 294.7 388 10.5 168.2 60.8
2016 1091.5 16.9 274.6 403.8 7.9 157 69.1
2017 947.7 16.6 263.1 403.8 7.7 158.1 47.8
2018 1081.4 14.3 263.2 403.8 6.7 152.7 24.9
2019 985.3 11.8 254.1 398 5.6 152.6 38.7
2020 899.9 13.2 246.5 309.2 3.7 156.6 78.5
2021 1022.4 15 245.9 346.6 2.8 161.6 62.8
2022 944.1 15 216.2 349.9 1.7 154.8 45.5

Mae Ffigur 7 yn rhoi dadansoddiad pellach o’r ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at holl allyriadau nwyon tŷ gwydr y Sir o 2014-2018*.  Y cyfranwyr mwyaf i’r ôl troed hwn yw gosodiadau diwydiannol mawr a thrafnidiaeth ffyrdd. Mae ardaloedd diwydiannol sylweddol yn y sir gan gynnwys Glannau Dyfrdwy, ac mae’r ffordd arfordirol a ddefnyddir yn helaeth hefyd yn rhedeg ar hyd y sir.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am tua 3% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y Sir.


* Mae data’r flwyddyn ddiweddaraf ar gael gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Y modd y gall y Cyngor ddylanwadu ar allyriadau Sir y Fflint 

Mae nifer o gamau y gall y Cyngor eu cymryd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sir ehangach. Drwy ei rôl arweiniol, gall y Cyngor lywio a dylanwadu yn ogystal ag ysbrydoli gweithredu a chyfrifoldeb unigol a chyfunol. Mae llawer o gamau gweithredu megis cyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan yn gofyn am ddull gweithredu cydgysylltiedig, cyffredin na ellir ond ei gyflwyno drwy gydweithio ar draws ffiniau.

Fodd bynnag, bydd cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol gan fod llawer o ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr y tu allan i reolaeth y Cyngor ac felly bydd angen mewnbwn traws-sector arnynt.
 county emissions cym

Dyma’r camau gweithredu o fewn y themâu allweddol nad ydynt yn cyfrannu at ein hôl troed carbon uniongyrchol ond y gallwn eu cyflawni er mwyn ymgysylltu, dylanwadu a grymuso eraill.

Adeiladau 

  • Datgarboneiddio’r system ynni leol drwy arwain ar ein camau o fewn Cynllun Ynni Ardal Leol Sir y Fflint.
  • Gweithredu Strategaeth Ddatgarboneiddio Tai ar gyfer datgarboneiddio cartrefi’r Cyngor yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau effeithlonrwydd thermol, lleihau costau gwresogi, ac addasu i’r dyfodol.
  •  Cefnogi Cynghorau Tref a Chymuned i leihau allyriadau gweithrediadau ac ymgysylltu â defnyddwyr adeiladau i annog newid ymddygiad cadarnhaol
  • Parhau i ddarparu rhaglenni gydag aelwydydd preifat a busnesau lleol i leihau tlodi tanwydd a darparu mynediad at gynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy ehangach. 

Symudedd a Thrafnidiaeth 

  • Hyrwyddo’r defnydd o gludiant cyhoeddus, teithio llesol, a datblygu rhwydwaith cerdded a beicio’r Cyngor ymhellach
  • Hyrwyddo teithiau trafnidiaeth aml-foddol a datblygu canolfannau trafnidiaeth strategol. Gwella mynediad i gyfleusterau storio, gwefru a llogi.
  • Ystyried cyfleoedd gyda phartneriaid i alluogi fflyd mwy gwyrdd yn y sector cludiant cyhoeddus (bysiau, rheilffordd, tacsis), gan gynnwys gwasanaethau dan gontract gyda’r Cyngor megis cludiant ysgol
  • Sicrhau bod pwyntiau gwefru cerbydau ar gael mewn ardaloedd allweddol ar draws y sir – gwledig a threfol.

Defnydd Tir 

Bydd y Cyngor yn lleihau allyriadau o drafnidiaeth drwy hyrwyddo cludiant cynaliadwy, lleihau teithio mewn ceir a thagfeydd traffig, ac annog newid ymddygiad.

  • Gweithio gyda ffermwyr Tenant i rannu arfer gorau ar ffermio cynaliadwy a chynyddu amsugno carbon
  • Archwilio polisïau arferion gorau ac annog y ddarpariaeth o ofod ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned mewn datblygiadau newydd a safleoedd gwag neu safleoedd na chânt eu defnyddio lawer.
  • Gweithio gyda chymunedau i gynyddu gwerth bioamrywiaeth a storio carbon 
  • Canfod cyfleoedd i gaffael tir Cyngor newydd ar gyfer y diben o amsugno carbon a gwella bioamrywiaeth.

Ymddygiad 

  • Cefnogi Cynllun Pensiwn Clwyd i leihau allyriadau drwy ymwahanu pensiynau a phortffolios buddsoddi eraill i ffwrdd o danwydd ffosil i gefnogi ynni gwyrdd.
  • Cyflwyno deunydd cyfathrebu, digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, hyrwyddo cynnydd y Cyngor ac annog gweithredu ehangach mewn perthynas â’r hinsawdd.