Bydd y cynlluniau’n cael eu cyflwyno i Banel Grantiau Adfywio Sir y Fflint ar gyfer penderfyniad am y cais grant. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’w hystyried gan y panel yn un o’i gyfarfodydd misol wedi ei amlinellu isod yn ychwanegol at ddyddiadau cyfarfodydd y panel a’r dyddiad yr hysbysir am ganlyniad y cais.
Sut caiff fy nghais ei asesu?
Y dyddiad cau misol ar gyfer cyflwyno ceisiadau (erbyn 5pm). | Cyfarfod y Panel – i ystyried ceisiadau: | Rhoi gwybod i’r ymgeisydd am y penderfyniad erbyn: |
Dydd Mercher 23 Ebrill 2025 |
Dydd Mercher 7 Mai 2025 |
Dydd Iau 15 Mai 2025 |
Dydd Mercher 21 Mai 2025 |
Dydd Mercher 4 Mehefin 2025 |
Dydd Iau 12 Mehefin 2025 |
Dydd Mercher 18 Mehefin 2025 |
Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2025 |
Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025 |
Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025 |
Dydd Mawrth 5 Awst 2025 |
Dydd Mawrth 5 Awst 2025 |
Sylwer, ni chaiff pob cyfarfod panel ei gynnal os yw’r holl gyllid grant sydd ar gael wedi’i ddyrannu’n llawn i brosiectau cyn dyddiadau’r cyfarfodydd. Caiff ceisiadau eu hannog felly ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd cynharaf y panel, er mwyn cynyddu’r siawns o ddyfarnu grant i’r cais gan fod y cyllid yn gyfyngedig a disgwylir y bydd galw mawr amdano.
Caiff pob cais ei asesu ar sail y budd cadarnhaol i’r ardal leol gan gynnwys yr amgylchedd, ond gall lefel y grant (yn amodol ar reolau cymorth gwladwriaethol) fod yn gyfyngedig yn dibynnu ar faint a natur y prosiect, y bwlch hyfywedd neu statws ariannol y cwmni. Bydd y panel yn ystyried:
- A yw’r ymgeisydd wedi cwblhau ymchwil ar y farchnad leol i gyfrif y bydd y buddsoddiad grant o fudd i’r dref y mae’r prosiect wedi ei leoli ynddi?
- Pa mor gryf yw’r achos busnes ar gyfer y prosiect ac a fydd yn darparu canlyniadau cadarnhaol hirdymor a chynaliadwy ar gyfer yr ardal?
- Pa risgiau sydd yna i’r prosiect? hy. Pa mor ddiogel yw cyllid yr ymgeisydd? A oes modd cyflawni’r prosiect o fewn y terfynau amser a gynigir? A yw’r gwaith a’r costau’n rhesymol ac a oes modd eu cyflawni?
Bydd y ceisiadau (isafswm o £5,000 a hyd at uchafswm o £50,000) ar gyfer cyllid Grant Gwella Eiddo Canol y Dref yn cael eu hasesu’n llawn a bydd aelod o’r Tîm Adfywio yn cyflwyno argymhellion. Gall pob awdurdod lleol unigol benderfynu ar y cyfraddau ymyrryd yn seiliedig ar amodau’r farchnad leol, hyd at uchafswm o 70% o gymorth grant.
Y penderfyniadau a wneir fydd:
- Cymeradwyo
- Cymeradwyo gydag amodau
- Gwrthod - Darperir cyfiawnhad llawn i unrhyw ymgeisydd y caiff ei gais ei wrthod.