Safle hapchwarae trwydded
Deddf Hapchwarae 2005
Ar y 7fed o Ebrill 2005 cafodd Deddf Hapchwarae 2005 Gydsyniad Brenhinol sy’n golygu bod cynigion y Llywodraeth ar gyfer diwygio’r gyfraith ar hapchwarae wedi dod i rym. Crëwyd y Comisiwn Hapchwarae o dan y Ddeddf, a chyflwynwyd cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer hapchwarae masnachol. Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Hapchwarae 2005 ar gael ar wefan yr .
Y Comisiwn yn gyfrifol am ganiatáu trwyddedau gweithredu a thrwyddedau personol ar gyfer gweithredwyr hapchwarae masnachol a gweithwyr sy’n gweithio yn y diwydiant. Yng Nghymru a Lloegr, bydd awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am nifer o swyddogaethau rheoleiddio o ran hapchwarae.  
Ymhlith y swyddogaethau hyn mae'r canlynol:
- trwyddedu adeiladau ar gyfer gweithgareddau hapchwarae;
 
- ystyried hysbysiadau a roddwyd i ddefnyddio adeiladau, a hynny dros-dro, ar gyfer hapchwarae;
 
- rhoi hawlenni ar gyfer hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn clybiau a sefydliadau lles glowyr;
 
- rheoleiddio hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn adeiladau a drwyddedwyd i werthu alcohol;
 
- caniatáu hawlenni i ganolfannau adloniant teulu ddefnyddio rhai peiriannau hapchwarae graddfa is;
 
- caniatáu hawlenni ar gyfer hapchwarae i ennill rhodd;
 
- ystyried hysbysiadau hapchwarae yn achlysurol ar draciau; a
 
- chofrestru loterïau cymdeithasau bach.
 
Mae’r Ddeddf yn cynnwys tri o amcanion trwyddedu sy’n sail i’r swyddogaethau y bydd y Comisiwn a’r awdurdodau trwyddedu yn eu cyflawni. Mae’r amcanion hyn yn ganolog i’r gyfundrefn newydd o reoleiddio a grëwyd gan y Ddeddf. Yr amcanion hyn yw:
- atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell troseddu neu anrhefn, rhag cael ei gysylltu â throseddu ac anrhefn, a rhag cael ei ddefnyddio i gynorthwyo troseddu;
 
- sicrhau bod hapchwarae’n digwydd mewn modd teg ac agored; a
 
- diogelu plant ac eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu gael eu cam-fanteisio gan hapchwarae.
 
Datganiad o Bolisi Trwyddedu
Mae’n ofynnol i’r awdurdod trwyddedu baratoi ‘Datganiad o Bolisi Trwyddedu’ bob tair blynedd sydd â’r tri o amcanion trwyddedu yn ganolog iddo.
Deddf Hapchwarae – Datganiad Polisi Trwyddedu (2023)
Gwneud cais
Ffioedd y Ddeddf Hapchwarae 2005
I gael gwybod sut i wneud cais, cysylltwch â:I gael gwybod sut i wneud cais, cysylltwch â:
Yr Adain Drwyddedu, 
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, 
Cyngor Sir y Fflint, 
Tŷ Dewi Sant,
Parc Dewi Sant,
Ewlo,
CH5 3FF
Ffôn: 01352 703030
E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk
(Byddai o gymorth i ni pe baech yn cynnwys eich enw, cyfeiriad a'ch rhif ffôn ar unrhyw ohebiaeth.)