Trwydded safle garaf谩nau a gwersylla
Crynodeb o’r drwydded 
Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol arnoch chi i weithredu safle carafánau a gwersylla. 
Gellir rhoi amodau ar y drwydded yn ymwneud ag unrhyw un o’r isod:
- Cyfyngu pryd y gall carafánau fod ar y safle i bobl breswylio ynddyn nhw neu gyfyngu ar nifer y carafánau a all fod ar y safle ar unrhyw un adeg 
 
- Rheoli’r mathau o garafánau ar y safle  
 
- Rheoli lle y lleolir y carafánau neu reoli’r defnydd o strwythurau eraill a cherbydau, yn cynnwys pebyll 
 
- Sicrhau cyflwyno camau i wella golwg y tir, yn cynnwys plannu/ailblannu coed a llwyni 
 
- Mesurau diogelwch tân ac ymladd tân  
 
- Sicrhau bod cyfleusterau toiledau a chyfleusterau, gwasanaethau ac offer eraill yn cael eu darparu a’u cynnal a’u cadw. 
 
Meini prawf cymhwysedd 
Rhaid i’r ymgeisydd fod â’r hawl i ddefnyddio’r tir fel maes carafánau. 
Ni roir trwydded i ymgeiswyr y cafodd trwydded safle carafánau o’r fath ei diddymu oddi arnynt o fewn tair blynedd i’r cais cyfredol. 
Crynodeb o’r rheoliadau 
Proses gwerthuso cais 
Cyflwynir cais am drwydded safle i’r awdurdod lleol lle saif y tir. 
Rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig, a dylai nodi’r darn tir mae’r cais yn berthnasol iddo ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol.  
A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 
Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 
Ffioedd
Nid oes ffi ar gyfer y cais hwn.
Gwneud cais ar-lein
Gwneud iawn am gais a fethodd 
Fe’ch cynghorir i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf. 
Os gwrthodir cais deilydd trwydded i newid amod yna gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.  Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig o wrthod y cais a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r awdurdod lleol. 
Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 
Fe’ch cynghorir i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf. 
Os ydy deilydd trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm â thrwydded caiff gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.  Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o gyflwyno’r drwydded. 
Gall yr awdurdod lleol addasu’r amodau ar unrhyw adeg, ond rhaid rhoi cyfle i ddeilydd y drwydded gyflwyno sylwadau am y newidiadau arfaethedig.  Os ydy deilydd trwydded yn anghytuno â’r newidiadau yna caiff gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.  Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig am y newid, a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r awdurdod lleol. 
Cwyn gan ddefnyddiwr 
Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan . Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - .
Manylion cyswllt
Rheoli Amgylcheddol, Cyngor Sir y Fflint, Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF
Rhif ffôn: 01352 703440
Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant 
Mewn partneriaeth â EUGO