Gwelyau haul
Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 
Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 
Daeth Deddf newydd sy’n cwmpasu gweithrediad a’r defnydd o welyau haul i rym ar 8fed Ebrill 2011.
Mae Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 yn mynnu bod busnesau’n sicrhau nad oes dim un person o dan 18 oed yn:
- defnyddio gwely haul 
 
- cael cynnig y defnydd o wely haul, neu’n
 
- bresennol mewn parth cyfyngedig
 
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu canllaw (PDF ffenestr newydd) sy’n esbonio gofynion y Ddeddf gan gynnwys cymhwyso ac ystyr ‘parthau cyfyngedig’ mewn eiddo.
Yn rhan fwyaf yr achosion, mae peidio â chydymffurfio â’r Ddeddf yn drosedd a gall dirwy o hyd at £20,000 fod yn daladwy.
Cyflwynwyd rhagor o reolau gan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2011 a ddaeth i rym ar 31ain Hydref 2011:
- gofyniad i oruchwylio’r defnydd o welyau haul ar bob busnes gwelyau haul
 
- gwahardd gwerthu neu hurio gwelyau haul i bobl iau nag 18 oed
 
- ymestyn gofynion y rheoliadau i gynnwys busnesau sy’n gweithredu o eiddo domestig
 
- rhagbenodi fformat a chynnwys y wybodaeth iechyd y mae’n rhaid ei harddangos i oedolion sy’n ceisio defnyddio gwely haul, a sicrhau bod y wybodaeth ar gael iddynt
 
- gwahardd darparu neu arddangos unrhyw ddeunydd sy’n gysylltiedig ag effeithiau iechyd defnyddio gwelyau haul, ar wahân i ddeunydd sy’n cynnwys y wybodaeth iechyd a rhagbenodir gan y rheoliadau, a
 
- gofyniad i ddarparu a gwisgo sbectol amddiffynnol saff ac addas i oedolion.